Hen Destament

Testament Newydd

Actau 17:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yr oedd y rhain yn fwy eangfrydig na'r rhai yn Thesalonica, gan iddynt dderbyn y gair â phob eiddgarwch, gan chwilio'r Ysgrythurau beunydd i weld a oedd pethau fel yr oeddent hwy yn dweud.

12. Gan hynny, credodd llawer ohonynt, ac nid ychydig o'r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr.

13. Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd.

14. Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y môr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 17