Hen Destament

Testament Newydd

Actau 17:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aethant ar hyd y ffordd trwy Amffipolis ac Apolonia, a chyrraedd Thesalonica, lle yr oedd synagog gan yr Iddewon.

2. Ac yn ôl ei arfer aeth Paul i mewn atynt, ac am dri Saboth bu'n ymresymu â hwy ar sail yr Ysgrythurau,

3. gan esbonio a phrofi fod yn rhaid i'r Meseia ddioddef a chyfodi oddi wrth y meirw. Byddai'n dweud, “Hwn yw'r Meseia—Iesu, yr hwn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.”

4. Cafodd rhai ohonynt eu hargyhoeddi, ac ymuno â Paul a Silas; ac felly hefyd y gwnaeth lliaws mawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ac nid ychydig o'r gwragedd blaenaf.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 17