Hen Destament

Testament Newydd

Actau 14:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn â'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded.

9. Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu,

10. a dywedodd â llais uchel, “Saf yn unionsyth ar dy draed.” Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded.

11. Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: “Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion”;

12. a galwasant Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes, gan mai ef oedd y siaradwr blaenaf.

13. Yr oedd teml Zeus y tu allan i'r ddinas, a daeth yr offeiriad â theirw a thorchau at y pyrth gan fwriadu offrymu aberth gyda'r tyrfaoedd.

14. Pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Paul, am hyn, rhwygasant eu dillad, a neidio allan i blith y dyrfa dan weiddi,

15. “Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian â chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddynt.

16. Yn yr oesoedd a fu, goddefodd ef i'r holl genhedloedd rodio yn eu ffyrdd eu hunain.

17. Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd.”

18. Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 14