Hen Destament

Testament Newydd

Actau 14:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Rhannwyd pobl y ddinas; yr oedd rhai gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.

5. Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u harweinwyr, i'w cam-drin a'u llabyddio,

6. wedi cael achlust o'r peth, ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch,

7. ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.

8. Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn â'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded.

9. Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu,

10. a dywedodd â llais uchel, “Saf yn unionsyth ar dy draed.” Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded.

11. Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: “Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion”;

12. a galwasant Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes, gan mai ef oedd y siaradwr blaenaf.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 14