Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:22-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Yna fe'i diorseddodd ef, a chodi Dafydd yn frenin iddynt, a thystiolaethu iddo gan ddweud, ‘Cefais Ddafydd fab Jesse yn ŵr wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.’

23. O blith disgynyddion hwn y daeth Duw, yn ôl ei addewid, â Gwaredwr i Israel, sef Iesu.

24. Yr oedd Ioan eisoes, cyn iddo ef ddod, wedi cyhoeddi bedydd edifeirwch i holl bobl Israel.

25. Ac wrth ei fod yn cwblhau ei yrfa, dywedodd Ioan, ‘Beth yr ydych chwi'n tybio fy mod? Nid hynny wyf fi. Na, dyma un yn dod ar f'ôl i nad wyf fi'n deilwng i ddatod y sandalau am ei draed.’

26. “Frodyr, disgynyddion Abraham a'r rhai yn eich plith sy'n ofni Duw, i ni yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.

27. Oherwydd nid adnabu trigolion Jerwsalem a'u llywodraethwyr mo hwn; ni ddeallasant chwaith eiriau'r proffwydi a ddarllenir bob Saboth, ond eu cyflawni trwy ei gondemnio ef.

28. Er na chawsant ddim rheswm dros ei roi i farwolaeth, ceisiasant gan Pilat ei ladd;

29. ac wedi iddynt ddwyn i ben bopeth oedd wedi ei ysgrifennu amdano, tynasant ef i lawr oddi ar y pren a'i roi mewn bedd.

30. Ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw;

31. ac fe ymddangosodd dros ddyddiau lawer i'r rhai oedd wedi dod i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, ac y mae'r rhain yn awr yn dystion iddo i'r bobl.

32. Yr ydym ninnau yn cyhoeddi i chwi newydd da am yr addewid a wnaed i'r hynafiaid, fod Duw wedi ei llwyr gyflawni hi i ni eu plant trwy atgyfodi Iesu,

33. fel y mae'n ysgrifenedig hefyd yn yr ail Salm:“ ‘Fy mab wyt ti;myfi a'th genhedlodd di heddiw.’

34. “Ac am ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw, byth i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y mae wedi dweud fel hyn:“ ‘Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd sy'n perthyn i Ddafydd, y pethau sicr.’

35. “Oherwydd mewn lle arall eto y mae'n dweud:“ ‘Ni adewi i'th Sanct weld llygredigaeth.’

36. “Canys Dafydd, wedi iddo yn ei genhedlaeth ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a fu farw, ac a roddwyd i orffwys gyda'i dadau, a gwelodd lygredigaeth;

37. ond yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd hwnnw lygredigaeth.

38. Felly bydded hysbys i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau,

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13