Hen Destament

Testament Newydd

Actau 11:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.

27. Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia,

28. a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.

29. Penderfynodd pob un o'r disgyblion gyfrannu, yn ôl fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cydgredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea.

30. Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 11