12. A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw.
13. Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;
14. fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’
15. Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.
16. Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’
17. Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?”
18. Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, “Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd.”
19. Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled â Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond Iddewon yn unig.
20. Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
21. Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd.
22. Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia.
23. Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon;
24. achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd.
25. Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia.
26. Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.
27. Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia,
28. a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.
29. Penderfynodd pob un o'r disgyblion gyfrannu, yn ôl fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cydgredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea.
30. Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.