10. Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn ôl i'r nef.
11. Ac yn union dyma dri dyn yn dod ac yn sefyll wrth y tŷ lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea.
12. A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw.
13. Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;
14. fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’
15. Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.
16. Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’
17. Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?”