22. Meddent hwythau, “Y canwriad Cornelius, gŵr cyfiawn sy'n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i anfon amdanat i'w dŷ, ac i glywed y pethau sydd gennyt i'w dweud.”
23. Felly gwahoddodd hwy i mewn a rhoi llety iddynt.Trannoeth, cododd ac aeth ymaith gyda hwy, ac aeth rhai o'r credinwyr oedd yn Jopa gydag ef.
24. A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.
25. Wedi i Pedr ddod i mewn, aeth Cornelius i'w gyfarfod, a syrthiodd wrth ei draed a'i addoli.
26. Ond cododd Pedr ef ar ei draed, gan ddweud, “Cod; dyn wyf finnau hefyd.”
27. A than ymddiddan ag ef aeth i mewn, a chael llawer wedi ymgynnull,
28. ac meddai wrthynt, “Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.
29. Dyna pam y deuthum, heb wrthwynebu o gwbl, pan anfonwyd amdanaf. Rwy'n gofyn, felly, pam yr anfonasoch amdanaf.”
30. Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i'r awr hon, yr oeddwn ar weddi am dri o'r gloch y prynhawn yn fy nhŷ, a dyma ŵr yn sefyll o'm blaen mewn gwisg ddisglair,
31. ac meddai, ‘Cornelius, y mae Duw wedi clywed dy weddi di ac wedi cofio am dy elusennau.