Hen Destament

Testament Newydd

Actau 1:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd â rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda'i frodyr.

15. Un o'r dyddiau hynny cododd Pedr ymysg y credinwyr—yr oedd tyrfa o bobl yn yr un lle, rhyw gant ac ugain ohonynt—ac meddai,

16. “Gyfeillion, rhaid oedd cyflawni'r Ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr un a ddangosodd y ffordd i'r rhai a ddaliodd Iesu;

17. oherwydd fe'i cyfrifid yn un ohonom ni, a chafodd ei ran yn y weinidogaeth hon.”

18. (Fe brynodd hwn faes â'r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi syrthio ar ei wyneb fe rwygodd yn ei ganol, a thywalltwyd ei berfedd i gyd allan.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 1