Hen Destament

Testament Newydd

3 Ioan 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr henuriad at Gaius, y gŵr annwyl yr wyf fi yn ei garu yn y gwirionedd.

2. Gyfaill annwyl, yr wyf yn dymuno iechyd iti, a llwyddiant ym mhob peth, fel y mae dy enaid yn llwyddo.

3. Oherwydd yr oedd yn llawenydd mawr i mi pan fyddai cyfeillion yn dod ac yn tystio i'th wirionedd di, i'r modd yr wyt ti'n rhodio yn y gwirionedd.

4. Nid oes dim sy'n fwy o lawenydd i mi na chlywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd.

5. Gyfaill annwyl, yr wyt ti'n gwneud peth teilwng wrth wasanaethu'r cyfeillion, a hwythau'n ddieithriaid.

Darllenwch bennod gyflawn 3 Ioan 1