Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 3:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yr ydym yn gorchymyn i chwi, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gadw draw oddi wrth bob crediniwr sy'n segura yn lle byw yn ôl y traddodiad a dderbyniodd gennym ni.

7. Gwyddoch yn iawn fel y dylech ein hefelychu ni, oherwydd nid segura y buom ni yn eich plith,

8. na bwyta bara neb am ddim, ond yn hytrach gweithio nos a dydd mewn llafur a lludded, rhag bod yn faich ar neb ohonoch.

9. Nid nad oes gennym hawl arnoch, ond gwnaethom hyn er mwyn ein rhoi ein hunain yn esiampl i chwi i'w hefelychu.

10. Ac yn wir, pan oeddem yn eich plith, rhoesom y gorchymyn hwn i chwi: os oes rhywun sy'n anfodlon gweithio, peidied â bwyta chwaith.

11. Oherwydd yr ydym yn clywed bod rhai yn eich mysg yn segura, yn busnesa ym mhobman heb weithio yn unman.

12. I'r cyfryw yr ydym yn gorchymyn, ac yn apelio yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddynt weithio'n dawel ac ennill eu bywoliaeth eu hunain.

13. A pheidiwch chwithau, gyfeillion, â blino ar wneud daioni.

14. Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch â chymdeithasu â hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt.

15. Eto peidiwch â'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.

16. Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 3