Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 2:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. I hyn y galwodd ef chwi, trwy'r Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu: i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

15. Am hynny, gyfeillion, safwch yn gadarn, a glynwch wrth y traddodiadau yr ydych wedi eu dysgu gennym ni, naill ai ar air neu trwy lythyr.

16. A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras,

17. ddiddanu eich calonnau a'ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 2