Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 3:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr wyf am ichwi gofio'r pethau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Gwaredwr, a roddwyd trwy eich apostolion.

3. Deallwch hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr sy'n byw yn ôl eu chwantau eu hunain,

4. ac yn holi'n goeglyd: “Beth a ddaeth o'r addewid am ei ddyfodiad ef? Oherwydd, byth er pan hunodd yr hynafiaid, y mae popeth wedi parhau yn union fel y bu o ddechreuad y greadigaeth.”

5. Y maent yn fwriadol yn anwybyddu'r ffaith hon, fod y nefoedd yn bod erstalwm, a'r ddaear wedi ei llunio o ddŵr a thrwy ddŵr gan air Duw;

6. a thrwy ddŵr y dinistriwyd byd yr oes honno, sef dŵr y dilyw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 3