Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 1:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio'n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a'i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld â'n llygaid ein hunain yn ei fawredd.

17. Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o'r Gogoniant goruchel yn dweud: “Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”

18. Fe glywsom ni'r llais hwn yn dod o'r nef, oherwydd yr oeddem gydag ef ar y mynydd sanctaidd.

19. Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau.

20. Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur

21. yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 1