Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 8:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Oherwydd os ydych yn eiddgar i roi, y mae hynny'n dderbyniol gan Dduw, ar sail yr hyn sydd gan rywun, nid yr hyn nad yw ganddo.

13. Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi,

14. ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.

15. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer,na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 8