Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 5:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. o'n gwisgo felly, ni cheir mohonom yn noeth.

4. Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd.

5. Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes.

6. Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd;

7. oherwydd yn ôl ffydd yr ydym yn rhodio, nid yn ôl golwg.

8. Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd.

9. Y mae ein bryd, felly, gartref neu oddi cartref, ar fod yn gymeradwy ganddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 5