Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd.

2. Yma yn wir yr ydym yn ochneidio yn ein hiraeth am gael ein harwisgo â'r corff o'r nef sydd i fod yn gartref inni;

3. o'n gwisgo felly, ni cheir mohonom yn noeth.

4. Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd.

5. Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 5