Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 13:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Oherwydd er ei groeshoelio ef mewn gwendid, eto y mae'n byw trwy nerth Duw. Ac er ein bod ninnau yn wan ynddo ef, eto fe gawn fyw gydag ef trwy nerth Duw, yn ein perthynas â chwi.

5. Profwch eich hunain i weld a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Onid ydych yn sylweddoli bod Iesu Grist ynoch chwi?—a chaniatáu nad ydych wedi methu'r prawf.

6. Yr wyf yn gobeithio y dewch chwi i weld nad ydym ni wedi methu.

7. Yr ydym yn gweddïo ar Dduw na fydd i chwi wneud dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos fel rhai a lwyddodd yn y prawf, ond er mwyn i chwi wneud yr hyn sydd dda, er i ni ymddangos fel rhai a fethodd.

8. Oherwydd ni allwn wneud dim yn erbyn y gwirionedd, dim ond dros y gwirionedd.

9. Yr ydym yn llawenhau pan fyddwn ni'n wan a chwithau'n gryf; a hyn yn wir yw ein gweddi, i chwi gael eich adfer.

10. Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, a minnau'n absennol, er mwyn i mi, pan fyddaf yn bresennol, beidio â'ch trafod yn llym wrth arfer yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd imi i adeiladu, nid i ddymchwel.

11. Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apêl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi.

12. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae'r saint i gyd yn eich cyfarch.

13. Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 13