Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 12:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ym mha beth y bu'n waeth arnoch chwi na'r eglwysi eraill, ond yn hyn, na fûm i yn faich arnoch chwi? Maddeuwch imi y camwedd hwn.

14. Dyma fi'n barod i ddod atoch y drydedd waith. Ac nid wyf am fod yn faich arnoch. Oherwydd chwi yr wyf yn eu ceisio, nid eich eiddo; nid y plant a ddylai ddarparu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant.

15. Fe wariaf fi fy eiddo yn llawen, ac fe'm gwariaf fy hunan i'r eithaf, dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi'n eich caru chwi'n fwy, a wyf fi i gael fy ngharu'n llai?

16. Ond, a chaniatáu na fûm i'n dreth arnoch, eto honnir imi fod yn ddigon cyfrwys i'ch dal trwy ddichell.

17. A fanteisiais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a anfonais atoch?

18. Deisyfais ar Titus fynd atoch, ac anfonais ein brawd gydag ef. A fanteisiodd Titus arnoch? Onid ymddwyn yn yr un ysbryd a wnaethom ni, ac onid dilyn yr un llwybrau?

19. A ydych yn tybio drwy'r amser mai ein hamddiffyn ein hunain i chwi yr ydym? Gerbron Duw yr ydym yn llefaru, yng Nghrist, a'r cwbl er adeiladaeth i chwi, fy nghyfeillion annwyl.

20. Oherwydd y mae arnaf ofn na chaf chwi, pan ddof, fel y dymunwn ichwi fod, ac na'm ceir innau chwaith fel y dymunech chwi imi fod. Yr wyf yn ofni y bydd cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, difenwi, clebran, ymchwyddo, terfysgu.

21. Yr wyf yn ofni rhag i'm Duw, pan ddof drachefn, fy narostwng o'ch blaen, a rhag imi orfod galaru dros lawer a oedd wedi pechu gynt, a heb edifarhau am yr amhurdeb a'r anfoesoldeb rhywiol a'r anlladrwydd a wnaethant.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 12