Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 10:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist.

6. Yr ydym yn barod i gosbi pob anufudd-dod unwaith y bydd eich ufudd-dod chwi yn gyflawn.

7. Wynebwch y ffeithiau amlwg. Pwy bynnag sy'n credu yn ei galon ei fod yn perthyn i Grist, fe ddylai ystyried hyn hefyd yn ei galon, ein bod ninnau yn perthyn i Grist gymaint ag yntau.

8. Hyd yn oed os wyf yn ymffrostio rywfaint yn ormod am ein hawdurdod—awdurdod a roddodd yr Arglwydd i ni er mwyn eich adeiladu, nid eich dymchwel—ni chaf fy nghywilyddio.

9. Ni chaf fy nangos, chwaith, fel un sy'n codi dychryn arnoch â'i lythyrau, fel y myn rhai.

10. “Mae ei lythyrau,” meddant, “yn bwysfawr a grymus, ond pan fydd yn bresennol, dyn bach eiddil ydyw, a'i ymadrodd yn haeddu dirmyg.”

11. Dealled y rhai sy'n siarad felly hyn: yr hyn ydym ar air mewn llythyrau pan ydym yn absennol, hynny'n union a fyddwn mewn gweithred pan fyddwn yn bresennol.

12. Oherwydd nid ydym yn beiddio cystadlu na'n cymharu ein hunain â'r rhai sydd yn eu canmol eu hunain. Pobl heb ddeall ydynt, yn eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac yn eu cymharu eu hunain â hwy eu hunain.

13. Ond ni fydd ein hymffrost ni y tu hwnt i'n mesur; fe'i cedwir o fewn mesur y terfyn a bennodd Duw i ni, sy'n cyrraedd hyd atoch chwi hefyd.

14. Oherwydd nid ydym yn mynd y tu hwnt i'n terfyn, fel y byddem pe na bai ein terfyn yn eich cynnwys chwi; ni oedd y cyntaf i ddod ag Efengyl Crist atoch chwi hefyd.

15. Nid ydym yn ymffrostio y tu hwnt i'n mesur, hynny yw, ar bwys llafur pobl eraill. Ond gobeithio yr ydym, fel y bydd eich ffydd chwi yn mynd ar gynnydd, y bydd ein gwaith yn eich plith yn helaethu'n ddirfawr, o fewn ein terfynau.

16. Ein bwriad yw pregethu'r Efengyl mewn mannau y tu hwnt i chwi, nid ymffrostio yn y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud o fewn terfynau rhywun arall.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 10