Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyfarwyddiadau ynglŷn â Gweddïo

1. Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb,

2. dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.

3. Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr,

4. sy'n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.

5. Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn.

6. Fe'i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb, yn dystiolaeth yn yr amser priodol i fwriad Duw.

7. Ar fy ngwir, heb ddim anwiredd, dyma'r neges y penodwyd fi i dystio iddi fel pregethwr ac apostol, yn athro i'r Cenhedloedd yn y ffydd ac yn y gwirionedd.

8. Y mae'n ddymuniad gennyf, felly, fod y gwŷr ym mhob cynulleidfa yn gweddïo, gan ddyrchafu eu dwylo mewn sancteiddrwydd, heb na dicter na dadl;

9. a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid â phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud,

10. ond â gweithredoedd da, fel sy'n gweddu i wragedd sy'n honni bod yn dduwiol.

11. Rhaid i wragedd gymryd eu dysgu yn dawel gan lwyr ymostwng.

12. Ac nid wyf yn caniatáu i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwŷr; eu lle hwy yw bod yn dawel.

13. Oherwydd Adda oedd y cyntaf i gael ei greu, ac wedyn Efa.

14. Ac nid Adda a dwyllwyd; y wraig oedd yr un a dwyllwyd, a chwympo drwy hynny i drosedd.

15. Ond caiff ei hachub drwy ddwyn plant—a bwrw y bydd gwragedd yn parhau mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd, ynghyd â diweirdeb.