Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 2:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fe wyddoch eich hunain, gyfeillion, na fu ein dyfodiad atoch yn ofer.

2. Yr oeddem eisoes wedi dioddef ac wedi cael ein sarhau, fel y gwyddoch, yn Philipi, ond buom yn hy trwy nerth ein Duw i draethu i chwi Efengyl Duw, er mor galed oedd y frwydr.

3. Oherwydd nid yw ein hapêl ni yn codi o gyfeiliornad, na chwaith o amhurdeb, ac nid oes ynddi dwyll;

4. yn hytrach, fel y cawsom ein profi'n gymeradwy gan Dduw i gael ymddiried yr Efengyl inni, yr ydym yn llefaru fel rhai sy'n boddhau, nid meidrolion ond Duw, yr hwn sy'n profi ein calonnau.

5. Oherwydd, fel y gwyddoch, ni buom un amser yn arfer geiriau gweniaith, na chwaith ffalster i gelu trachwant—fel y mae Duw'n dyst.

6. Ac nid oeddem yn ceisio gogoniant gan bobl, gennych chwi na neb arall, er y gallasem, fel apostolion Crist, fod yn ddynion o bwys.

7. Ond buom yn addfwyn yn eich plith, fel mamaeth yn meithrin ei phlant ei hun.

8. Felly, yn ein hoffter ohonoch, yr oedd yn dda gennym gyfrannu i chwi, nid yn unig Efengyl Duw, ond nyni ein hunain hefyd, gan i chwi ddod yn annwyl gennym.

9. Oherwydd yr ydych yn cofio, gyfeillion, am ein llafur a'n lludded; yr oeddem yn gweithio nos a dydd, rhag bod yn faich ar neb ohonoch, wrth bregethu Efengyl Duw i chwi.

10. Yr ydych chwi'n dystion, a Duw yn dyst hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a di-fai y bu ein hymddygiad tuag atoch chwi sy'n credu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 2