Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 1:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Daethoch chwi yn efelychwyr ohonom ni ac o'r Arglwydd, gan ichwi dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, ynghyd â llawenydd yr Ysbryd Glân.

7. Felly daethoch yn esiampl i bawb o'r credinwyr ym Macedonia ac yn Achaia.

8. Canys oddi wrthych chwi yr atseiniodd gair yr Arglwydd, ac nid ym Macedonia ac Achaia yn unig; y mae eich ffydd chwi yn Nuw wedi mynd ar led ym mhob man, fel nad oes angen i ni ddweud dim.

9. Oherwydd y mae pobl ohonynt eu hunain yn sôn amdanom, y fath dderbyniad a gawsom i'ch plith, a'r modd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r gwir Dduw byw,

10. ac i ddisgwyl ei Fab o'r nefoedd, y Mab a gyfododd ef oddi wrth y meirw, sef Iesu, yr un sydd yn ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 1