Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 5:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog.

11. Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen.

12. Yr wyf yn ysgrifennu'r ychydig hyn trwy law Silfanus, brawd y gellir, yn ôl fy nghyfrif i, ymddiried ynddo. Fy mwriad yw eich calonogi, a thystio mai dyma wir ras Duw. Safwch yn ddisigl ynddo.

13. Y mae'r hon ym Mabilon sydd yn gydetholedig â chwi yn eich cyfarch, a Marc, fy mab.

14. Cyfarchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll sydd yng Nghrist!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 5