Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 3:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar.

20. Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr,

21. ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy atgyfodiad Iesu Grist.

22. Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 3