Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 3:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist.

17. Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg.

18. Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd,

19. ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 3