Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 1:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O'i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o'r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,

4. i etifeddiaeth na ellir na'i difrodi, na'i difwyno, na'i difa. Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi,

5. chwi sydd trwy ffydd dan warchod gallu Duw hyd nes y daw iachawdwriaeth, yr iachawdwriaeth sydd yn barod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.

6. Yn wyneb hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod, fe ddichon, yn awr yn profi blinder dros dro dan amrywiol brofedigaethau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 1