Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 1:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist.

14. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth;

15. eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad.

16. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.”

17. Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddi-dderbyn-wyneb yn ôl gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth.

18. Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,

19. ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.

20. Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio'r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi

21. sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw.

22. Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol.

23. Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros.

24. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Y mae pob un meidrol fel glaswellt,a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes.Y mae'r glaswellt yn crino,a'r blodeuyn yn syrthio,

25. ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.”A dyma'r gair a bregethwyd yn Efengyl i chwi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 1