Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 5:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd.

19. Yr ydym yn gwybod ein bod ni o Dduw, a bod yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.

20. Yr ydym yn gwybod bod Mab Duw wedi dod, ac wedi rhoi inni ddealltwriaeth, er mwyn inni adnabod yr Un gwir; ac yr ydym ni yn yr Un gwir, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol.

21. Blant, ymgadwch rhag eilunod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 5