Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2:12-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, blant,am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy ei enw ef.

13. Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau,am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad.Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc,am eich bod wedi gorchfygu'r Un drwg.Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, blant,am eich bod yn adnabod y Tad.

14. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, dadau,am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad.Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc,am eich bod yn gryf,ac am fod gair Duw yn aros ynoch,a'ch bod wedi gorchfygu'r Un drwg.

15. Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,

16. oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd.

17. Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.

18. Blant, dyma'r awr olaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dod, yn awr dyma anghristiau lawer wedi dod; wrth hyn yr ydym yn gwybod mai dyma'r awr olaf.

19. Aethant allan oddi wrthym ni, ond nid oeddent yn perthyn i ni, oherwydd pe byddent yn perthyn i ni, byddent wedi aros gyda ni; dangoswyd felly nad oedd neb ohonynt yn perthyn i ni.

20. Ond amdanoch chwi, y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod.

21. Nid am nad ydych yn gwybod y gwirionedd yr wyf yn ysgrifennu atoch, ond am eich bod yn ei wybod, ac yn gwybod hefyd am bob celwydd, nad yw o'r gwirionedd.

22. Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab.

23. Pob un sy'n gwadu'r Mab, nid yw'r Tad ganddo chwaith; y sawl sy'n cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd.

24. Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad.

25. Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol.

26. Ysgrifennais hyn atoch ynglŷn â'r rhai sydd am eich arwain ar gyfeiliorn.

27. A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 2