Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 7:28-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi.

29. Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar ôl ohono, bydded i'r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd,

30. a'r rhai sy'n wylo fel pe na baent yn wylo, a'r rhai sy'n llawenhau fel pe na baent yn llawenhau, a'r rhai sy'n prynu fel rhai heb feddu dim,

31. a'r rhai sy'n ymwneud â'r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef. Oherwydd mynd heibio y mae holl drefn y byd hwn.

32. Carwn ichwi fod heb ofalon. Y mae'r dyn dibriod yn gofalu am bethau'r Arglwydd, sut i foddhau'r Arglwydd.

33. Ond y mae'r gŵr priod yn gofalu am bethau'r byd, sut i foddhau ei wraig,

34. ac y mae'n cael ei dynnu y naill ffordd a'r llall. A'r ferch ddibriod a'r wyryf, y maent yn gofalu am bethau'r Arglwydd, er mwyn bod yn sanctaidd mewn corff yn ogystal ag ysbryd. Ond y mae'r wraig briod yn pryderu am bethau'r byd, sut i foddhau ei gŵr.

35. Yr wyf yn dweud hyn er eich lles chwi eich hunain; nid er mwyn eich dal yn ôl, ond er mwyn gwedduster, ac ymroddiad diwyro i'r Arglwydd.

36. Os oes unrhyw un yn teimlo ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd tuag at ei ddyweddi, os yw ei nwydau'n rhy gryf ac felly bod y peth yn anorfod, gwnaed yn ôl ei ddymuniad a bydded iddynt briodi; nid oes pechod yn hynny.

37. Ond y sawl sydd yn aros yn gadarn ei feddwl, heb fod dan orfod, ond yn cadw ei ddymuniad dan reolaeth, ac yn penderfynu yn ei feddwl gadw ei ddyweddi yn wyryf, bydd yn gwneud yn dda.

38. Felly bydd yr hwn sydd yn priodi ei ddyweddi yn gwneud yn dda, ond bydd y dyn nad yw'n priodi yn gwneud yn well.

39. Y mae gwraig yn rhwym i'w gŵr cyhyd ag y mae ef yn fyw. Ond os bydd ei gŵr farw, y mae'n rhydd i briodi pwy bynnag a fyn, dim ond iddi wneud hynny yn yr Arglwydd.

40. Ond bydd yn ddedwyddach o aros fel y mae, yn ôl fy marn i. Ac yr wyf yn meddwl bod Ysbryd Duw gennyf fi hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 7