Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 7:24-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gyfeillion, arhosed pob un gerbron Duw yn y cyflwr hwnnw yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.

25. Ynglŷn â'r gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn gan yr Arglwydd, ond yr wyf yn rhoi fy marn fel un y gellir, trwy drugaredd yr Arglwydd, ddibynnu arno.

26. Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae.

27. A wyt yn rhwym wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau. A wyt yn rhydd oddi wrth wraig? Paid â cheisio gwraig.

28. Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi.

29. Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar ôl ohono, bydded i'r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd,

30. a'r rhai sy'n wylo fel pe na baent yn wylo, a'r rhai sy'n llawenhau fel pe na baent yn llawenhau, a'r rhai sy'n prynu fel rhai heb feddu dim,

31. a'r rhai sy'n ymwneud â'r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef. Oherwydd mynd heibio y mae holl drefn y byd hwn.

32. Carwn ichwi fod heb ofalon. Y mae'r dyn dibriod yn gofalu am bethau'r Arglwydd, sut i foddhau'r Arglwydd.

33. Ond y mae'r gŵr priod yn gofalu am bethau'r byd, sut i foddhau ei wraig,

34. ac y mae'n cael ei dynnu y naill ffordd a'r llall. A'r ferch ddibriod a'r wyryf, y maent yn gofalu am bethau'r Arglwydd, er mwyn bod yn sanctaidd mewn corff yn ogystal ag ysbryd. Ond y mae'r wraig briod yn pryderu am bethau'r byd, sut i foddhau ei gŵr.

35. Yr wyf yn dweud hyn er eich lles chwi eich hunain; nid er mwyn eich dal yn ôl, ond er mwyn gwedduster, ac ymroddiad diwyro i'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 7