15. Ond os yw'r anghredadun am ymadael, gadewch i hwnnw neu honno fynd. Nid yw'r gŵr na'r wraig o Gristion, mewn achos felly, yn gaeth; i heddwch y mae Duw wedi eich galw.
16. Oherwydd sut y gwyddost, wraig, nad achubi di dy ŵr? Neu sut y gwyddost, ŵr, nad achubi di dy wraig?
17. Beth bynnag am hynny, dalied pob un i fyw yn ôl y gyfran a gafodd gan yr Arglwydd, pob un yn ôl yr alwad a gafodd gan Dduw. Yr wyf yn gwneud hyn yn rheol yn yr holl eglwysi.
18. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n enwaededig? Peidied â chuddio'i gyflwr. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n ddienwaededig? Peidied â cheisio enwaediad.
19. Nid enwaediad sy'n cyfrif, ac nid dienwaediad sy'n cyfrif, ond cadw gorchmynion Duw.
20. Dylai pob un aros yn y cyflwr yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.
21. Ai caethwas oeddit pan gefaist dy alw? Paid â phoeni; ond os gelli ennill dy ryddid, cymer dy gyfle, yn hytrach na pheidio.
22. Oherwydd y sawl oedd yn gaeth pan alwyd ef i fod yn yr Arglwydd, un rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd, y sawl oedd yn rhydd pan alwyd ef, un caeth i Grist ydyw.
23. Am bris y'ch prynwyd chwi. Peidiwch â mynd yn gaeth i feistriaid dynol.
24. Gyfeillion, arhosed pob un gerbron Duw yn y cyflwr hwnnw yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.
25. Ynglŷn â'r gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn gan yr Arglwydd, ond yr wyf yn rhoi fy marn fel un y gellir, trwy drugaredd yr Arglwydd, ddibynnu arno.
26. Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae.
27. A wyt yn rhwym wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau. A wyt yn rhydd oddi wrth wraig? Paid â cheisio gwraig.
28. Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi.
29. Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar ôl ohono, bydded i'r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd,