Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 5:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Adroddir fel ffaith fod yna anfoesoldeb rhywiol yn eich plith, a hwnnw'r fath anfoesoldeb na cheir mohono hyd yn oed ymhlith y paganiaid, bod rhyw ddyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad.

2. A dyma chwi, yn llawn ymffrost! Onid eich lle chwi oedd galaru, a bwrw allan o'ch plith yr un a wnaeth y fath beth?

3. Oherwydd dyma fi, yn absennol yn y corff, ond yn bresennol yn yr ysbryd, eisoes wedi rhoi dyfarniad, fel un sy'n bresennol, ar y dyn a wnaeth y fath weithred:

4. bod i chwi, ynghyd â'm hysbryd innau, wedi ymgynnull yn enw ein Harglwydd Iesu, a gallu ein Harglwydd Iesu gyda ni,

5. draddodi'r fath ddyn i Satan er mwyn dinistrio'r cnawd, a thrwy hynny achub ei ysbryd yn Nydd yr Arglwydd.

6. Nid yw eich ymffrost yn weddus. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does?

7. Glanhewch yr hen lefain allan, ichwi fod yn does newydd, croyw, fel yr ydych mewn gwirionedd. Oherwydd y mae Crist, ein Pasg ni, wedi ei aberthu.

8. Am hynny cadwn yr ŵyl, nid â'r hen lefain, nac ychwaith â lefain malais a llygredd, ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 5