Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Peidied neb â'i dwyllo'i hunan; os oes rhywun yn eich plith yn tybio ei fod yn ddoeth yn ôl safonau'r oes hon, bydded ffôl, er mwyn dod yn ddoeth.

19. Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig:“Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra”,

20. ac eto:“Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion,mai ofer ydynt.”

21. Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi—

22. Paul, Apolos, Ceffas, y byd, bywyd, angau, y presennol, y dyfodol—pob peth yn eiddo i chwi,

23. a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3