Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 15:17-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd.

18. Y mae'n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt.

19. Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb.

20. Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.

21. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw.

22. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist.

23. Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist.

24. Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu.

25. Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed.

26. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.

27. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “darostyngodd bob peth dan ei draed ef.” Ond pan yw'n dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae'n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef.

28. Ond pan fydd pob peth wedi ei ddarostwng i'r Mab, yna fe ddarostyngir y Mab yntau i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, ac felly Duw fydd oll yn oll.

29. Os nad oes atgyfodiad, beth a wna'r rhai hynny a fedyddir dros y meirw? Os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi o gwbl, i ba bwrpas y bedyddir hwy drostynt?

30. Ac i ba ddiben yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr?

31. Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired â bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

32. Os fel dyn cyffredin yr ymleddais â bwystfilod yn Effesus, pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw,“Gadewch inni fwyta ac yfed,canys yfory byddwn farw.”

33. Peidiwch â chymryd eich camarwain:“Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 15