Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:30-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi.

31. Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.

32. Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd.

33. Nid Duw anhrefn yw Duw, ond Duw heddwch.Yn ôl y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint,

34. dylai'r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae'r Gyfraith hefyd yn dweud.

35. Os ydynt am gael gwybod rhywbeth, dylent ofyn i'w gwŷr eu hunain gartref, oherwydd peth anweddus yw i wraig lefaru yn y gynulleidfa.

36. Ai oddi wrthych chwi y cychwynnodd gair Duw? Neu ai atoch chwi yn unig y cyrhaeddodd?

37. Os oes rhywun ohonoch yn tybio ei fod yn broffwyd, neu'n rhywun ysbrydol, dylai gydnabod mai gorchymyn yr Arglwydd yw'r hyn yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.

38. Os oes rhai nad ydynt yn cydnabod hynny, ni chânt hwythau eu cydnabod.

39. Felly, fy nghyfeillion, rhowch eich bryd ar broffwydo, a pheidiwch â gwahardd llefaru â thafodau.

40. Dylid gwneud popeth yn weddus ac mewn trefn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14