Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:27-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Os oes rhywun yn llefaru â thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli.

28. Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.

29. Dim ond dau neu dri o'r proffwydi sydd i lefaru, a'r lleill i bwyso'r neges.

30. Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi.

31. Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.

32. Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd.

33. Nid Duw anhrefn yw Duw, ond Duw heddwch.Yn ôl y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint,

34. dylai'r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae'r Gyfraith hefyd yn dweud.

35. Os ydynt am gael gwybod rhywbeth, dylent ofyn i'w gwŷr eu hunain gartref, oherwydd peth anweddus yw i wraig lefaru yn y gynulleidfa.

36. Ai oddi wrthych chwi y cychwynnodd gair Duw? Neu ai atoch chwi yn unig y cyrhaeddodd?

37. Os oes rhywun ohonoch yn tybio ei fod yn broffwyd, neu'n rhywun ysbrydol, dylai gydnabod mai gorchymyn yr Arglwydd yw'r hyn yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14