Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:17-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr wyt ti'n wir yn rhoi'r diolch yn ddigon da, ond nid yw'r llall yn cael ei adeiladu.

18. Diolch i Dduw, yr wyf fi'n llefaru â thafodau yn fwy na chwi i gyd.

19. Ond yn yr eglwys, y mae'n well gennyf lefaru pum gair â'm deall, er mwyn hyfforddi eraill, na deng mil o eiriau â thafodau.

20. Fy nghyfeillion, peidiwch â bod yn blantos o ran deall; byddwch yn fabanod o ran drygioni, ond yn aeddfed o ran deall.

21. Y mae'n ysgrifenedig yn y Gyfraith:“ ‘Trwy rai o dafodau dieithr,ac â gwefusau estroniaid,y llefaraf wrth y bobl hyn,ac eto ni wrandawant arnaf,’medd yr Arglwydd.”

22. Arwyddion yw tafodau, felly, nid i gredinwyr, ond i anghredinwyr; ond proffwydoliaeth, nid i anghredinwyr y mae, ond i gredinwyr.

23. Felly, pan ddaw holl aelodau'r eglwys ynghyd i'r un lle, os bydd pawb yn llefaru â thafodau, a phobl heb eu hyfforddi, neu anghredinwyr, yn dod i mewn, oni ddywedant eich bod yn wallgof?

24. Ond os bydd pawb yn proffwydo, ac anghredadun neu rywun heb ei hyfforddi yn dod i mewn, fe'i hargyhoeddir gan bawb, a'i ddwyn i farn gan bawb;

25. daw pethau cuddiedig ei galon i'r amlwg, ac felly bydd yn syrthio ar ei wyneb ac yn addoli Duw a dweud, “Y mae Duw yn wir yn eich plith.”

26. Beth amdani, ynteu, gyfeillion? Pan fyddwch yn ymgynnull, bydd gan bob un ei salm, ei air o hyfforddiant, ei ddatguddiad, ei lefaru â thafodau, ei ddehongliad. Gadewch i bob peth fod er adeiladaeth.

27. Os oes rhywun yn llefaru â thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli.

28. Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.

29. Dim ond dau neu dri o'r proffwydi sydd i lefaru, a'r lleill i bwyso'r neges.

30. Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi.

31. Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.

32. Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd.

33. Nid Duw anhrefn yw Duw, ond Duw heddwch.Yn ôl y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14