Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dilynwch gariad yn daer, a rhowch eich bryd ar y doniau ysbrydol, yn enwedig dawn proffwydo.

2. Oherwydd y mae'r sawl sydd yn llefaru â thafodau yn llefaru, nid wrth bobl, ond wrth Dduw. Nid oes unrhyw un yn ei ddeall; llefaru pethau dirgel y mae, yn yr Ysbryd.

3. Ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn llefaru wrth bobl bethau sy'n eu hadeiladu a'u calonogi a'u cysuro.

4. Y mae'r sawl sy'n llefaru â thafodau yn ei adeiladu ei hun, ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn adeiladu'r eglwys.

5. Mi hoffwn ichwi i gyd lefaru â thafodau, ond yn fwy byth ichwi broffwydo. Y mae'r sawl sy'n proffwydo yn well na'r sawl sy'n llefaru â thafodau, os na all ddehongli'r hyn y mae'n ei ddweud, er mwyn i'r eglwys gael adeiladaeth.

6. Yn awr, gyfeillion, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, os na ddywedaf rywbeth wrthych sy'n ddatguddiad, neu'n wybodaeth, neu'n broffwydoliaeth, neu'n hyfforddiant?

7. Ystyriwch offerynnau difywyd sy'n cynhyrchu sŵn, fel ffliwt neu delyn; os na seiniant eu nodau eglur eu hunain, sut y mae gwybod beth sy'n cael ei ganu arnynt?

8. Ac os yw'r utgorn yn rhoi nodyn aneglur, pwy sy'n mynd i'w arfogi ei hun i frwydr?

9. Felly chwithau: wrth lefaru â thafodau, os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir? Malu awyr y byddwch.

10. Mor niferus yw'r mathau o ieithoedd sydd yn y byd! Ac nid oes unman heb iaith.

11. Ond os nad wyf yn deall ystyr y siaradwr, byddaf yn farbariad aflafar iddo, ac yntau i minnau.

12. Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys.

13. Felly, bydded i'r sawl sy'n llefaru â thafodau weddïo am y gallu i ddehongli.

14. Oherwydd os byddaf yn gweddïo â thafodau, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy meddwl yn ddiffrwyth.

15. Beth a wnaf, felly? Mi weddïaf â'm hysbryd, ond mi weddïaf â'm deall hefyd. Mi ganaf â'r ysbryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd.

16. Onid e, os byddi'n moliannu â'r ysbryd, pa fodd y gall rhywun sydd heb ei hyfforddi ddweud yr “Amen” i'r diolch yr wyt yn ei roi, os nad yw'n deall beth yr wyt yn ei ddweud?

17. Yr wyt ti'n wir yn rhoi'r diolch yn ddigon da, ond nid yw'r llall yn cael ei adeiladu.

18. Diolch i Dduw, yr wyf fi'n llefaru â thafodau yn fwy na chwi i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14