Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 12:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer.

15. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.

16. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.

17. Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli?

18. Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda.

19. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff?

20. Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff.

21. Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, “Nid oes arnaf dy angen di”, na'r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 12