Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 12:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ynglŷn â doniau ysbrydol, gyfeillion, nid wyf am ichwi fod yn anwybodus yn eu cylch.

2. Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid.

3. Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, “Melltith ar Iesu!” Ac ni all neb ddweud, “Iesu yw'r Arglwydd!” ond trwy yr Ysbryd Glân.

4. Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi;

5. ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi;

6. ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.

7. Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 12