Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ond os myn neb fod yn gecrus, nid oes gennym ni unrhyw arfer o'r fath, na chan eglwysi Duw chwaith.

17. Ond wrth eich cyfarwyddo, dyma rywbeth nad wyf yn ei ganmol ynoch, eich bod yn ymgynnull, nid er gwell, ond er gwaeth.

18. Yn gyntaf, pan fyddwch yn ymgynnull fel eglwys, yr wyf yn clywed bod ymraniadau yn eich plith, ac rwy'n credu bod peth gwir yn hyn.

19. Oherwydd y mae pleidiau yn eich plith yn anghenraid, er mwyn i'r rhai dilys yn eich mysg ddod i'r golwg.

20. Felly, pan fyddwch yn ymgynnull, nid swper yr Arglwydd y byddwch yn ei fwyta,

21. oherwydd yn y bwyta y mae pob un yn rhuthro i gymryd ei swper ei hun, ac y mae eisiau bwyd ar un, ac un arall yn feddw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11