Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Felly, bydded i'r sawl sy'n tybio ei fod yn sefyll, wylio rhag iddo syrthio.

13. Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i bawb. Y mae Duw'n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano.

14. Felly, fy nghyfeillion annwyl, ffowch oddi wrth eilunaddoliaeth.

15. Yr wyf yn siarad â chwi fel pobl synhwyrol; barnwch chwi'r hyn yr wyf yn ei ddweud.

16. Cwpan y fendith yr ydym yn ei fendithio, onid cyfranogiad o waed Crist ydyw? A'r bara yr ydym yn ei dorri, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?

17. Gan mai un yw'r bara, yr ydym ni, a ninnau'n llawer, yn un corff, oherwydd yr ydym i gyd yn cyfranogi o'r un bara.

18. Edrychwch ar yr Israel hanesyddol. Onid yw'r rhai sy'n bwyta'r ebyrth yn gyfranogion o'r allor?

19. Beth, felly, yr wyf yn ei ddweud? Bod bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod yn rhywbeth? Neu fod eilun yn rhywbeth?

20. Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.

21. Ni allwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan cythreuliaid; ni allwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd cythreuliaid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10