Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 95:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.

5. Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;ei ddwylo ef a greodd y sychdir.

6. Dewch, addolwn ac ymgrymwn,plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.

7. Oherwydd ef yw ein Duw,a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa;heddiw cewch wybod ei rym,os gwrandewch ar ei lais.

8. Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba,fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,

9. pan fu i'ch hynafiaid fy herioa'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 95