1. Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD,rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
2. Down i'w bresenoldeb â diolch,gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
3. Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4. Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.
5. Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
6. Dewch, addolwn ac ymgrymwn,plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
7. Oherwydd ef yw ein Duw,a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa;heddiw cewch wybod ei rym,os gwrandewch ar ei lais.