Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 94:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD,ac yn poenydio dy etifeddiaeth.

6. Lladdant y weddw a'r estron,a llofruddio'r amddifad,

7. a dweud, “Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld,ac nid yw Duw Jacob yn sylwi.”

8. Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl!Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?

9. Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed,a'r un a luniodd lygad yn gweld?

10. Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd,a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?

11. Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl,mai gwynt ydynt.

12. Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD,ac a ddysgi allan o'th gyfraith,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 94