Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 94:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.

19. Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.

20. A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw,sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?

21. Cytunant â'i gilydd am fywyd y cyfiawn,a chondemnio'r dieuog i farw.

22. Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi,a'm Duw yn graig i'm llochesu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 94