Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 94:12-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD,ac a ddysgi allan o'th gyfraith,

13. i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd,nes agor pwll i'r drygionus.

14. Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl,nac yn gadael ei etifeddiaeth;

15. oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn,a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.

16. Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus,a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?

17. Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyobyddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.

18. Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.

19. Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.

20. A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw,sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?

21. Cytunant â'i gilydd am fywyd y cyfiawn,a chondemnio'r dieuog i farw.

22. Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi,a'm Duw yn graig i'm llochesu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 94